Un o'r tasgau cyntaf i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd cynnal Asesiad Llesiant yn Sir Gâr. Rydym wedi gwneud hyn mewn partneriaeth gyda Cheredigion a Sir Benfro er mwyn sicrhau dull cyson ar draws ardal Hywel Dda.
Mae Asesiad Llesiant Sir Gâr 2017 yn amlinellu beth mae llesiant yn ei olygu yn y Sir, a’r hyn fyddai llesiant yn ei olygu yn y dyfodol pe bai trigolion a chymunedau Sir Gâr yn cael eu dymuniad. Mae’r asesiad yn ymchwilio materion allweddol sy'n cael effaith gadarnhaol a/neu negyddol ar lesiant ac yn darparu gorolwg a dealltwriaeth sylfaenol o natur a lefelau llesiant yn Sir Gâr. Mae’r asesiad cychwynnol hwn yn cynnig sylfaen y byddwn yn adeiladu arno i greu dealltwriaeth lawnach o lesiant i’n trigolion a chymunedau wrth symud ymlaen.
Yn dilyn ystyrieth o ganfyddiadau'r Asesiad Llesiant a'r digwyddiadau ymgysylltu, datblygwyd Cynllun Llesiant Sir Gâr Drafft. Gwahoddwyd y safbwyntiau ar y cynllun drafft yn ystod cyfnod ymgynghori a ddaeth i ben ar 3 Ionawr 2018. Fe wnaethom ystyried yr Adroddiad Ymgynghori ac Ymgysylltu a ysgrifennwyd yn dilyn dadansoddiad o'r holl ymatebion a dderbyniwyd a gwnaed newidiadau i'r Cynllun drafft.
Cymeradwywyd Cynllun Llesiant Sir Gâr ar 2 Mai 2018. Bydd y Cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â rhai o’r materion allweddol sy’n effeithio ar lesiant trigolion a chymunedau’r Sir.
Mae Adroddiad Blynyddol cyntaf Cynllun Llesiant Sir Gâr ar gynnydd yn ystod y cyfnod 2018-19 bellach ar gael.