Grwpiau Gweithredu
Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sefydlu bwrdd statudol, a adnabyddir fel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), ym mhob ardal llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r BGC yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy’n gweithio ar y cyd i wella llesiant ein sir.
Mae hyn yn golygu bod angen i ni weithio ar y cyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein hardal trwy weithio i gyflawni’r 7 nod Llesiant. Byddwn yn asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ac yn cyhoeddi cynllun llesiant bydd yn gosod allan ein hamcanion lleol a’r camau byddwn yn cymryd er mwyn eu cyflawni. Fel bob un o’r cyrff cyhoeddus unigol a enwir yn y Ddeddf, mae’n rhaid i ni ddilyn yr egwyddor datblygu gynaliadwy - sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Ein pedwar aelod statudol yw:
- Cyngor Sir Gâr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Ein partneriaid eraill yw:
- Coleg Sir Gâr
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Heddlu Dyfed Powys
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
- Adran Gwaith a Phensiynau
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
- Llywodraeth Cymru
- Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae gwybodaeth am ein holl gyfarfodydd a digwyddiadau ar gael ar ein tudalen ‘Cymryd Rhan’. Mae gan bob cyfarfod/digwyddiad adran lle mae croeso i chi gyflwyno cwestiynau yr hoffech i ni drafod ac ystyried.
Lawrlwytho:
Am fwy o fanylion ar ein diben, nod, rôl a chyfrifoldebau lawrlwythwch ein Hamodau Gorchwyl.
Dyma adroddiad blynyddol o gynnydd a wnaed yn erbyn ein blaenoriaethau yn y Strategaeth Gymunedol Integredig yn ystod 2015/16. Bydd y Strategaeth hon yn parhau i fod yn ganolbwynt gweithgaredd i ni nes bod ein Cynllun Llesiant newydd yn cael ei gyhoeddi yn Ebrill 2018.