Cwcis

Rydym am ddarparu gwasanaethau ar-lein sy'n hawdd eu defnyddio, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Gall hyn olygu rhoi pytiau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur neu eich ffôn symudol neu ddyfeisiau eraill sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd tra byddwch yn defnyddio ein gwefan. Cwcis y gelwir y ffeiliau hyn.

Fe'u gelwir hefyd yn gwcis porwr neu gwcis llwybro. Maent yn ffeiliau testun bach sy’n aml wedi’u hamgryptio, ac yng nghyfeiriaduron eich porwr gwe. Rydym yn defnyddio cwcis i'ch helpu i ddefnyddio'r wefan hon yn effeithlon ac i gyflawni swyddogaethau penodol.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe wedi'u gosod i dderbyn cwcis. Os nad ydych am gael cwcis, mae modd ichi newid gosodiadau eich porwr gwe i wrthod derbyn cwcis.

Sylwer: Defnyddir cwcis yn helaeth er mwyn i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, a hefyd er mwyn darparu gwybodaeth i ni, perchenogion y safle. Efallai y bydd analluogi cwcis yn golygu na fyddwch yn gallu defnyddio rhannau penodol o'r wefan hon.

Pam rydym yn Defnyddio Cwcis

Ni ellir defnyddio cwcis i wybod pwy ydych chi.

Defnyddir y wybodaeth arferol a gedwir mewn cwcis i wella'r gwasanaethau ichi. Er enghraifft:

  • Galluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais gan olygu nad oes yn rhaid ichi roi'r un wybodaeth droeon yn ystod tasg.
  • Gwybod eich bod efallai eisoes wedi rhoi eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair sy'n golygu nad oes yn rhaid ichi eu rhoi ar gyfer pob tudalen we y gwnewch gais amdani.
  • Cyfrif sawl person sy'n defnyddio'r gwasanaethau, er mwyn ei gwneud yn haws eu defnyddio a gofalu bod darpariaeth ddigonol i sicrhau eu bod yn gyflym.
  • Dadansoddi data i'n helpu i ddeall sut yr ydych yn defnyddio ein gwasanaethau er mwyn inni allu eu gwella.

Y Modd yr ydym yn Defnyddio Cwcis

Cwcis i fesur y defnydd a wneir o wasanaethau. Rydym yn defnyddio nifer o ddulliau gwahanol o gasglu'r data, gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan y cwmnïau canlynol:

Google Analytics

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth ynghylch sut y mae'r rhai sy'n ymweld â'n safle yn ei ddefnyddio. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu i wella'r safle. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r safle, o ble y daeth y rhai sy'n ymweld â'r safle a'r tudalennau y maent wedi ymweld â hwy. Mae'r cwcis a ddefnyddir yn cynnwys y canlynol:

Enw'r Cwci: _utma
Cynnwys nodweddiadol: hap-rif
Daw i ben ar ôl:  2 flynedd

Enw'r Cwci: _utmb
Cynnwys nodweddiadol: hap-rif
Daw i ben ar ôl: 30 munud

Enw'r Cwci: _utmc
Cynnwys nodweddiadol: hap-rif
Daw i ben: pan fydd y defnyddiwr yn gadael y porwr

Enw'r Cwci:  _utmz
Cynnwys nodweddiadol: hap-rif a gwybodaeth am sut y daethpwyd i'r dudalen (e.e.) yn uniongyrchol neu drwy ddolen gyswllt, chwiliad canlyniadau organig (nid yw’r rhai a restrir yn talu) neu chwiliad canlyniadau’r rhai sydd yn talu am gael eu rhestru.  
Daw i ben ar ôl: 6 mis

I gael rhagor o fanylion am y cwcis a osodir gan Google Analytics, gweler y ddolen gyswllt isod.

Recite Me

Mae Recite Me yn defnyddio dau gwci:

  • Recite.Persist: Mae hwn yn storio offeryn i ddynodi p’un a ddylai’r bar offer barhau rhwng tudalennau ai peidio
  • Recite.Preferences: Mae hwn yn storio gosodiadau presennol y defnyddiwr fel bod modd eu defnyddio eto ar dudalennau dilynol

Rheoli eich Cwcis

I gael gwybod sut mae caniatáu, atal, dileu a rheoli cwcis, dilynwch y ddolen gyswllt isod a dewiswch y porwr yr ydych yn ei ddefnyddio. Hefyd gallwch ddarllen tudalennau cymorth annatod neu ar-lein eich porwr i gael rhagor o wybodaeth.


Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr...

Cyngor Sir Gâr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Yr Adran Gwaith a Phensiynau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Coleg Sir Gâr Llywodraeth Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Heddlu Dyfed Powys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog