Y Bwrdd
Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sefydlu bwrdd statudol, a adnabyddir fel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), ym mhob ardal llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r BGC yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy’n gweithio ar y cyd i wella llesiant ein sir.
Mae hyn yn golygu bod angen i ni weithio ar y cyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein hardal trwy weithio i gyflawni’r 7 nod Llesiant. Byddwn yn asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ac yn cyhoeddi cynllun llesiant bydd yn gosod allan ein hamcanion lleol a’r camau byddwn yn cymryd er mwyn eu cyflawni. Mae’n rhaid i ni ddilyn yr egwyddor datblygu gynaliadwy - sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Ein pedwar aelod statudol yw:
- Cyngor Sir Gâr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Ein partneriaid eraill yw:
- Coleg Sir Gâr
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Heddlu Dyfed Powys
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
- Adran Gwaith a Phensiynau
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
- Llywodraeth Cymru
- Gwasanaeth Prawf
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae gwybodaeth am ein holl gyfarfodydd a digwyddiadau ar gael ar ein tudalen ‘Cyfarfodydd’. Mae gan bob cyfarfod/digwyddiad adran lle mae croeso i chi gyflwyno cwestiynau yr hoffech i ni drafod ac ystyried.
Er mwyn gwneud cynnydd ar yr amcanion a nodir yn ein Cynllun Llesiant, rydym wedi sefydlu cyfres o Grwpiau Gweithredu a Phartneriaeth Cymunedau Mwy Diogel.
- Amgylchedd Iach
- Ymyrraeth Gynnar
- Cysylltiadau Cadarn
- Pobl a Llefydd Llewyrchus
- Cymunedau Mwy Diogel
Pam cymryd rhan?
Rydym eisiau cynnwys gymaint o bobl ag sy’n bosib wrth osod ein hamcanion llesiant ac wrth gyflawni’r nodau llesiant. Rydym eisiau i bawb fod yn rhan o’r broses er mwyn sicrhau fod y gwaith rydym yn ei wneud a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn cwrdd â gofynion ein trigolion. Byddwn yn ceisio ymgysylltu gyda phoblogaeth gyfan Sir Gâr er mwyn adlewyrchu ein cymunedau amrywiol a sicrhau ein bod yn clywed pob safbwynt. Mae angen i chi ddweud wrthym ble gallwn wella fel eich bod chi’n elwa o wasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon.
Lawrlwytho:
Am fwy o fanylion ar ein diben, nod, rôl a chyfrifoldebau lawrlwythwch ein Hamodau Gorchwyl.
Cyhoeddwyd ein Asesiad Llesiant yn Ionawr 2018.
Cyhoeddwyd ein Cynllun Llesiant yn Mai 2018.