Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lletya ac yn cynnal y wefan hon ar ran y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ac yn gweithredu fel y rheolydd data at ddibenion y Ddeddf Diogelu Data.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwn ni’n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol ar ran y BGC. Mae hefyd yn berthnasol i wybodaeth am ymwelwyr â’r wefan hon.

Ein rhwymedigaethau dan y Ddeddf Diogelu Data

Er mwyn sicrhau ein bod yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio ymlynu’n llawn wrth yr wyth egwyddor a nodir yn Neddf Diogelu Data 1998.

Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn cyfeirio at gael, cofnodi, dal ac ymdrin â gwybodaeth bersonol fel ‘prosesu’. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch y mathau o wybodaeth bersonol yr ydym yn eu prosesu ac at ba ddibenion yr ydym yn gwneud hynny.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw’r corff sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Ddeddf Diogelu Data ac mae’n cynnal cofrestr gyhoeddus sy’n cynnwys enw a chyfeiriad Rheolyddion Data gyda disgrifiad o’r math o brosesu y maent yn ei wneud.

Gall unrhyw un gael mynediad at y gofrestr ac os ydych yn dymuno gweld cofnod Cyngor Sir Caerfyrddin, gallwch gael mynediad ato trwy Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Nid ydym yn casglu nac yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n ymweld â’r wefan hon, ac eithrio lle’r ydych yn dewis rhoi eich manylion personol trwy’r ffurflen ar-lein i ymgeisio am wybodaeth a diweddariadau gan y BGC.

Dim ond at ddibenion cynnal rhestr ohebu i gylchredeg gwybodaeth a diweddariadau gan y BGC y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a gesglir gennym.

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall gan gynnwys aelodau eraill o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Rhannu a datgelu eich gwybodaeth

Fodd bynnag, ceir sefyllfaoedd lle gall fod yn ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth bersonol heb gydsyniad y gwrthrych, megis:

  • Lle mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol inni ddarparu’r wybodaeth
  • Lle mae angen yr wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Lle mae datgelu’n hollbwysig er budd yr unigolyn dan sylw

Am faint o amser yr ydym yn cadw gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag yr ydych chi’n dymuno cael gwybodaeth a diweddariadau gan y BGC. Gallwch ofyn inni dynnu eich manylion oddi ar y rhestr ohebu unrhyw bryd trwy gysylltu â thîm cymorth y BGC ar 01267 224201.

Cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol

Rydym yn ceisio bod mor agored ag y gallwn fod o ran rhoi mynediad i bobl at eu gwybodaeth bersonol. Gall unigolion ganfod a ydym yn dal unrhyw wybodaeth bersonol amdanynt trwy wneud ‘cais gwrthrych am wybodaeth’ dan y Ddeddf Diogelu Data.

Gall fod achosion lle byddwn, gyda’ch cytundeb chi, yn gallu ymdrin â’ch cais yn anffurfiol, er enghraifft trwy roi ichi’r wybodaeth benodol y mae ei hangen arnoch dros y ffôn.

Os yw unrhyw wybodaeth wedi’i chofnodi’n anghywir gallwch ofyn inni ddiwygio’r wybodaeth.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn yn gosod unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon.

Cwynion neu ymholiadau

Rydym yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn yn wirioneddol o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod inni os ydynt yn meddwl bod y modd yr ydym yn casglu neu’n defnyddio data’n annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gweithdrefnau.

Rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu eglurhad ychwanegol y mae ei (h)angen.


Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr...

Cyngor Sir Gâr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Yr Adran Gwaith a Phensiynau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Coleg Sir Gâr Llywodraeth Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Heddlu Dyfed Powys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog