Byddwch yn rhan o'r sgwrs yn Sir Gâr

Cofrestrwch er mwyn derbyn gwybodaeth a diweddariadau


Beth ydyn ni'n gwneud yn Sir Gâr?

Cynllun Llesiant Lleol

Rydym yn paratoi Cynllun Llesiant Sir Gâr ar gyfer 2023-2028. Mae’r Cynllun wedi ei seilio ar yr Asesiad Llesint Lleol ac rydym yn awyddus i wybod a ydyn ni wedi adnabod y blaenoriaethau cywir er mwyn cefnogi llesiant pobl a chymunedau lleol, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Gall llawer o bethau ddylanwadu ar les ein unigolion a'n cymunedau, megis ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. 

Mae dolen wedi'i gynnwys i gymryd rhan yn yr arolwg. Bydd y wybodaeth a roddwch inni yn cael ei defnyddio, ynghyd â thystiolaeth arall, i gynhyrchu Cynllun Llesiant Sir Gâr ar gyfer 2023-28.. Bydd y Cynllun yn nodi ein Hamcanion Llesiant a’n gwaith fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Gaerfyrddin. 

 

Asesiad Llesiant Lleol

Mae'r Asesiad Llesiant Lleol yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n seiliedig ar ddata, tystiolaeth ac adborth gan ein trigolion a'n rhanddeiliaid ar yr hyn sy'n bwysig i'n cymunedau o ran Lles.

Dyma'r ail Asesiad rydym wedi ei gynhyrchu ers cyflwyno'r Ddeddf. Mae'r Asesiad yn darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Llesiant Lleol, a fydd yn pennu'r hyn y byddwn yn ei wneud dros y 5 mlynedd nesaf i wella lles pobl a chymunedau yn y Sir.

Cymeradwywyd Asesiad Llesiant Lleol Sir Gaerfyrddin ar ddechrau mis Mawrth 2022. Cefnogir yr Asesiad gan ddogfennau manwl, sy’n cynnwys Dadansoddiad yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd a'r proffiliau Lles Ardal Gymunedol.

  1. Asesiad Lles (.pdf,6,127kb)
  2. Adroddiad Ymgynghori a Chynnwys (.pdf,3,155kb)
  3. Asesiad Llesiant Sir Gâr - data (.pdf,444kb)
  4. Amgylchedd a Newid Hinsawdd (.pdf,1,213kb)
  5. Proffiliau Lles Ardal Gymunedol (.pdf,3,449kb)
  6. Astudiaethau achos (.pdf,166kb)

 

Asesiad Llesiant Sir Gâr 2017 a Cynllun 2018-2023

Un o'r tasgau cyntaf i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd cynnal Asesiad Llesiant yn Sir Gâr. Rydym wedi gwneud hyn mewn partneriaeth gyda Cheredigion a Sir Benfro er mwyn sicrhau dull cyson ar draws ardal Hywel Dda.

Mae Asesiad Llesiant Sir Gâr 2017 yn amlinellu beth mae llesiant yn ei olygu yn y Sir, a’r hyn fyddai llesiant yn ei olygu yn y dyfodol pe bai trigolion a chymunedau Sir Gâr yn cael eu dymuniad.  Mae’r asesiad yn ymchwilio materion allweddol sy'n cael effaith gadarnhaol a/neu negyddol ar lesiant ac yn darparu gorolwg a dealltwriaeth sylfaenol o natur a lefelau llesiant yn Sir Gâr.  Mae’r asesiad cychwynnol hwn yn cynnig sylfaen y byddwn yn adeiladu arno i greu dealltwriaeth lawnach o lesiant i’n trigolion a chymunedau wrth symud ymlaen.

Yn dilyn ystyrieth o ganfyddiadau'r Asesiad Llesiant a'r digwyddiadau ymgysylltu, datblygwyd Cynllun Llesiant Sir Gâr Drafft.  Gwahoddwyd y safbwyntiau ar y cynllun drafft yn ystod cyfnod ymgynghori a ddaeth i ben ar 3 Ionawr 2018.  Fe wnaethom ystyried yr Adroddiad Ymgynghori ac Ymgysylltu a ysgrifennwyd yn dilyn dadansoddiad o'r holl ymatebion a dderbyniwyd a gwnaed newidiadau i'r Cynllun drafft.

Cymeradwywyd Cynllun Llesiant Sir Gâr ar 2 Mai 2018.  Bydd y Cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â rhai o’r materion allweddol sy’n effeithio ar lesiant trigolion a chymunedau’r Sir.

 

Adroddiadau Blynyddol

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

 

Sir Gâr llewyrchus
Sir Gâr llewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Sir Gâr gydnerth
Sir Gâr gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

Sir Gâr iachach
Sir Gâr iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Sir Gâr sy'n fwy cyfartal
Sir Gâr sy'n fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).

Sir Gâr o gymunedau cydlynus
Sir Gâr o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Sir Gâr a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
Sir Gâr a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Sir Gâr sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Sir Gâr sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr...

Cyngor Sir Gâr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Yr Adran Gwaith a Phensiynau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Coleg Sir Gâr Llywodraeth Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Heddlu Dyfed Powys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog