Gweithwyr amlasiantaethol yn cael eu hyfforddi i adnabod arwyddion trosedd difrifol a threfnedig

Mae dros 200 o weithwyr rheng flaen wedi eu hyfforddi i adnabod arwyddion delio cyffuriau ar hyd Llinellau Sirol, gangiau troseddu trefnedig ac eithafiaeth.
Derbyniodd gweithwyr cymdeithasol, swyddogion prawf, ymwelwyr iechyd, swyddogion tai a staff sy’n gweithio gyda phobl a all fod yn agored i niwed hyfforddiant hanfodol wrth adnabod ac adrodd am fygythiadau sy’n dod i’r amlwg wrth fynd o amgylch eu gwaith.
Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys diweddariadau ar ymchwiliadau i droseddau difrifol a threfnedig, yr hyn sydd ynghlwm â delio cyffuriau ar hyd Llinellau Sirol – a phwy sydd mewn perygl oherwydd hynny, radicaleiddio, a bod angen i asiantaethau gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a byrddau iechyd gydweithio i oresgyn y bygythiadau hyn.
Meddai Prif Arolygydd Partneriaeth Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Jolene Mann: “Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu cryfder o fewn ein cymunedau. Mae ymateb effeithiol i bob trosedd difrifol a threfnedig yn dibynnu ar berthnasau a gyda rhannu gwybodaeth rhwng heddlu a phartneriaid.
“Mae gan drosedd ddifrifol y potensial i feddiannu pob cymuned, a chyfrifoldeb pawb yw mynd i’r afael â hi. Y bobl a all atal trosedd ddifrifol a threfnedig yw’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau – a ni yw hynny, a’n cyhoedd.”
Drwy eu rolau, mae’r rhai sy’n bresennol yn debygol o ddod i gysylltiad â phobl ifanc neu agored i niwed a all fod mewn perygl o ddioddef camfanteisio. Anogwyd nhw i adrodd am unrhyw newid bach, neu unrhyw arwydd a allai awgrymu bod rhywun yn dechrau dod ynghlwm â throsedd ddifrifol a threfnedig neu o gael eu radicaleiddio tuag at eithafiaeth.
Esboniodd y Prif Arolygydd Mann fod Heddlu Dyfed-Powys yn ymwybodol o nifer o gangiau troseddu trefnedig yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y mwyafrif ohonynt wedi eu chwalu a’r troseddwyr wedi eu dedfrydu, neu nid oedd cudd-wybodaeth bresennol yn bod i awgrymu eu bod yn dal i weithredu.
Dywedodd: “Fel rhan o un ymgyrch, fe wnaethom adnabod grŵp o unigolion gwrywaidd wedi eu lleoli yn Birmingham a oedd yn cyflenwi heroin a chrac cocên yn Llanelli. Roeddent yn gweithredu fel cwcw yn y nyth o eiddo pobl agored i niwed er mwyn delio cyffuriau oddi yno - mae hyn yn golygu eu bod yn edrych am bobl agored i niwed, ac i bob pwrpas yn cymryd meddiant o’u cartref er mwyn delio cyffuriau.
“Ar ddiwedd y flwyddyn y llynedd, roedd 24 o bobl wedi eu harestio ac maent naill ai wedi eu carcharu neu’n disgwyl eu dedfryd.
“Efallai eich bod wedi gweld penawdau ynghylch Llinellau Sirol yn y cyfryngau cenedlaethol, a byddwch yn parhau i weld mwy gan ein bod yn gwneud mwy o arestiadau ac yn rhoi mwy o bobl drwy’r llys.”
Esboniwyd fod delwyr a defnyddwyr o’r ardal wedi ymuno â gangiau o Birmingham, yn hytrach na cheisio parhau gyda’u busnes troseddol eu hunain.
“Fy mhle i yw eich bod yn wyliadwrus iawn ar gyfer unrhyw beth anarferol neu allan o’i le,” meddai’r Prif Arolygydd Mann.
“Mae angen i ni gydweithio. Cysylltu’r dotiau, cyflwyno’r gudd-wybodaeth, stopio’r gangiau.”
Trefnwyd y sesiynau hyfforddi gan y Bartneriaeth Cymunedau Diogelach, gyda mewnbynnau gan Heddlu Dyfed-Powys, Crimestoppers, Cyngor Sir Gâr a’r Uned Troseddau Trefnedig Ranbarthol. Mae’r Bartneriaeth yn rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr (PSB).
Meddai Cadeirydd y Bartneriaeth Cymunedau Diogelach, y Cynghorydd Cefin Campbell: “Mae’r Bartneriaeth Cymunedau Diogelach yn hapus iawn gyda’r ymateb a gawsom i’r sesiynau briffio amlasiantaethol hyn.
“Ein bwriad yw sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth o’r materion hyn a bod staff yn gwybod sut i atgyfeirio neu adrodd am unrhyw bryderon a allai fod ganddynt.”
Mae Llinellau Sirol yn fater cenedlaethol sy’n dod i’r amlwg, lle mae grwpiau troseddu trefnedig o ardaloedd trefol fel Llundain, Lerpwl a Birmingham yn gosod plant ac oedolion bregus rhyngddyn nhw eu hunain a’r perygl o gael eu canfod drwy gam-ddylanwadu arnynt fel eu bod yn cario ac yn gwerthu cyffuriau.
Bydd ‘rhedwyr’ yn cael eu hanfon ar draws ffiniau sirol i ardaloedd fel Llanelli, y Drenewydd a Hwlffordd i drosglwyddo a/neu werthu cyffuriau Dosbarth A ar ben arall y llinell.
Gallwch adrodd am unrhyw weithgarwch amheus neu unrhyw bryderon ynghylch gwerthu a chymryd cyffuriau yn eich cymuned drwy ffonio 101, neu adrodd ar-lein. Er mwyn adrodd am unrhyw wybodaeth yn ddienw, ffoniwch yr elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111.
Dysgwch fwy am y mater a sut i adnabod yr arwyddion fod rhywun mewn perygl o ddioddef camfanteisio Llinellau Sirol ar wefan Heddlu Dyfed Powys.
Nôl i'r newyddion ddiweddaraf