Y Sir Gâr a Garem - cyhoeddi Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Gâr ar gyfer 2023-28
Dyma'r ail Gynllun Llesiant i ni ei gynhyrchir ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ddeddf yn gofyn i gyrff y sector cyhoeddus ddod at ei gilydd fel BGC ar gyfer eu hardaloedd lleol.
Mae'r Cynllun Llesiant Lleol yn nodi sut y bydd y Bwrdd yn cydweithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein sir am y pum mlynedd nesaf. Mae’n adeiladu ar ddarn manwl o waith coladu a dadansoddi drwy’r Asesiad Lles lleol a’r gweithgarwch ymgysylltu gyda chymunedau a rhanddeiliaid ar draws ein sir.
Mae’r Cynllun Llesiant Lleol 2023-2028 yn cynnwys yr Amcanion Llesiant canlynol:
Edrychwn ymlaen at y bennod nesaf o gydweithio a chyd-gynhyrchu, a hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn unol â’n cyfrifoldeb statudol, rydym yn cyhoeddi y Cyngor a dderbyniwyd gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Asesiad Llesiant Lleol
Mae'r Asesiad Llesiant Lleol yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n seiliedig ar ddata, tystiolaeth ac adborth gan ein trigolion a'n rhanddeiliaid ar yr hyn sy'n bwysig i'n cymunedau o ran Lles.
Dyma'r ail Asesiad rydym wedi ei gynhyrchu ers cyflwyno'r Ddeddf. Mae'r Asesiad yn darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Llesiant Lleol, a fydd yn pennu'r hyn y byddwn yn ei wneud dros y 5 mlynedd nesaf i wella lles pobl a chymunedau yn y Sir.
Cymeradwywyd Asesiad Llesiant Lleol Sir Gaerfyrddin ar ddechrau mis Mawrth 2022. Cefnogir yr Asesiad gan ddogfennau manwl, sy’n cynnwys Dadansoddiad yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd a'r proffiliau Lles Ardal Gymunedol.
Asesiad Llesiant Sir Gâr 2017 a Cynllun 2018-2023
Un o'r tasgau cyntaf i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd cynnal Asesiad Llesiant yn Sir Gâr. Rydym wedi gwneud hyn mewn partneriaeth gyda Cheredigion a Sir Benfro er mwyn sicrhau dull cyson ar draws ardal Hywel Dda.
Mae Asesiad Llesiant Sir Gâr 2017 yn amlinellu beth mae llesiant yn ei olygu yn y Sir, a’r hyn fyddai llesiant yn ei olygu yn y dyfodol pe bai trigolion a chymunedau Sir Gâr yn cael eu dymuniad. Mae’r asesiad yn ymchwilio materion allweddol sy'n cael effaith gadarnhaol a/neu negyddol ar lesiant ac yn darparu gorolwg a dealltwriaeth sylfaenol o natur a lefelau llesiant yn Sir Gâr. Mae’r asesiad cychwynnol hwn yn cynnig sylfaen y byddwn yn adeiladu arno i greu dealltwriaeth lawnach o lesiant i’n trigolion a chymunedau wrth symud ymlaen.
Yn dilyn ystyrieth o ganfyddiadau'r Asesiad Llesiant a'r digwyddiadau ymgysylltu, datblygwyd Cynllun Llesiant Sir Gâr Drafft. Gwahoddwyd y safbwyntiau ar y cynllun drafft yn ystod cyfnod ymgynghori a ddaeth i ben ar 3 Ionawr 2018. Fe wnaethom ystyried yr Adroddiad Ymgynghori ac Ymgysylltu a ysgrifennwyd yn dilyn dadansoddiad o'r holl ymatebion a dderbyniwyd a gwnaed newidiadau i'r Cynllun drafft.
Cymeradwywyd Cynllun Llesiant Sir Gâr ar 2 Mai 2018. Bydd y Cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â rhai o’r materion allweddol sy’n effeithio ar lesiant trigolion a chymunedau’r Sir.
Adroddiadau Blynyddol